Lliwiau lingo newydd • Lliwiau lingo newydd Mae cod lliwiau i’ch helpu chi i ddarllen lingo newydd.
Lingo Newydd
EICH TUDALEN CHI
Colofn lyfrau
Castell Ogwr a’r ‘Ladi Wen’ • Mae tymor yr hydref fel pob tymor arall yn dod â newid i’r wlad. Dych chi’n hoffi’r adeg yma o’r flwyddyn? Mae’r diwrnodau yn fyrrach gyda thywyllwch min nos, ac mae hi’n dechrau oeri.
Dw i’n hoffi… gyda Sophie Mensah • Mae Sophie Mensah yn actor. Mae hi’n dod o Lerpwl yn wreiddiol. Mae hi’n actio’r cymeriad Maya Cooper yn Pobol y Cwm. Mae Sophie yn dysgu Cymraeg fel ei chymeriad yn y gyfres sebon.
Dwdls i helpu dysgwyr • Mae’r Athro OliverTurnbull yn niwroseicolegydd a seicolegydd clinigol. Mi wnaeth o ddechrau dysgu Cymraeg o ddifrif yn ystod y pandemig. Rŵan mae o wedi ysgrifennu llyfr Dwdls Cymraeg. Roedd y dwdls wedi ei helpu o i ddysgu geiriau oedd yn swnio’n debyg i’w gilydd. Yma mae o’n ateb cwestiynau lingo newydd…
Crwydro Ynys Enlli • Dyma golofn newydd sbon gan Rhian Cadwaladr. Mae Rhian yn actor ac awdur. Mae hi hefyd yn hoffi cerdded ac mae hi’n mynd â’i chamera efo hi i bob man. Y tro yma, mae hi wedi bod yn Ynys Enlli. Mae hi’n sôn am ei thaith i’r ynys …
O gyflwyno a garddio i dynnu peints yn Y Plough • Roedd Rachael Garside yn arfer bod yn gyflwynydd gyda BBC Cymru ac S4C. Roedd ei phartner, Joseph Atkin yn brif arddwr yng Ngerddi Aberglasney ger Caerfyrddin. Nawr, maen nhw’n rhedeg tafarn Y Plough yn Felingwm. Maen nhw’n defnyddio cynnyrch lleol ac yn coginio dros dân agored. Rachael sy’n ateb cwestiynau lingo newydd…
Cyflwyno rhaglen sy’n dathlu'r celfyddydau • Yn ei cholofn y tro yma mae Francesca Sciarrillo yn sôn am y rhaglen newydd mae hi'n cyflwyno – Y Sîn.
Stori gyfres – Y Dawnswyr gan Pegi Talfryn • Dach chi'n hoffi stori ddirgel? Dyma ran 4 y stori gyfres Y Dawnswyr gan y tiwtor Cymraeg ac awdur Pegi Talfryn. Mae hi'n byw yn Waunfawr wrth ymyl Eryri.
Ani + babi = hapus? • Wnaethoch chi weld y ddrama lwyfan Anfamol? Mae’r ddrama wedi cael ei haddasu yn gyfres deledu ar S4C. Mae Anfamol yn dilyn stori Ani sy’n defnyddio banc sberm i gael babi. Ond mae’r realiti o fod yn fam yn wahanol iawn i beth roedd hi’n disgwyl. Bethan Ellis Owen sy’n chwarae rhan Ani. Yma, mae hi’n ateb cwestiynau lingo newydd…
Yr hydref a’r ail wanwyn • Mae gwneud ychydig o waith yn yr hydref yn golygu bydd gennych chi fwy o bethau i’w mwynhau yn y gwanwyn, meddai Iwan Edwards. Mae Iwan yn un o gyflwynwyr y gyfres Garddio a Mwy ar S4C. Mae’n byw ym Mhont y Tŵr yn Sir Ddinbych.
Croesair • Cofiwch, un llythyren ydy ll.